Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2022
Amser:
09.01 -
09.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12624
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Elin Jones AS (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol: |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru
|
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Trafododd y Pwyllgor Busnes ymhellach y posibilrwydd o wneud 30 munud yn amseriad diofyn ar gyfer datganiadau’r llywodraeth. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth wedi cwtogi'r amser a neilltuwyd i rai datganiadau yn ystod yr wythnosau nesaf ac y byddai'n parhau i adolygu hyn hyd nes doriad y Pasg.
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 -
·
Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud)
– tynnwyd yn
ôl
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud) - gohiriwyd tan 29 Mawrth
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 (45
30 mins)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig (30 munud)
· Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 27 Ebrill 2022 –
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mawrth 2022:
NNDM7953 Mike Hedges
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.
Cyd-gyflwynwyr
Rhys ab Owen
Jane Dodds
Darren Millar
Wedi’i gefnogi gan
Alun Davies
Sam Rowlands
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau Toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2022.
5.2 Trefniadau Cyflwyno yn Ystod Toriad y Pasg, Calan Mai a Hanner Tymor y Sulgwyn 2022
Cytunodd y Pwyllgor Busnes:
Nododd y Trefnydd fod diwrnod braint i staff Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Mehefin 2022 a gofynnodd nad oedd sesiynau craffu pwyllgorau gyda Gweinidogion yn cael eu trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw.
6 Amserlen y Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 28 Mawrth.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 28 Mawrth.
7 Enwebiadau i bwyllgorau Ewropeaidd
Nododd y Pwyllgor Busnes fod gohebiaeth wedi’i chyfnewid rhwng Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau a’r Llywydd ynghylch enwebiadau’r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i’r Gyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, a chytunodd i drafod y mater pellach unwaith y ceir ymateb gan y Gweinidog. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am nodyn cefndir ar enwebiadau blaenorol i Gyngor Ewrop.